Oops something went wrong
  • {{ error }}

Cynghorir pob ymgeisydd i ddarllen y Canlllaw Derbyn i Ysgolion, sy'n rhoi manylion llawn am y modd mae ceisiadau yn cael eu prosesu a'r terfynau amser y mae'n rhaid cadw atynt. Bydd gan rieni y gwrthodir eu cais am le yn yr ysgol o'u dewis hawl i apêl annibynnol. Noder nad yw hyn yn berthnasol i dderbyniadau meithrin.

Nid oes rheidrwydd ar y Cyngor i ddod o hyd i ysgol arall i blentyn nad yw yn preswylio yn barhaol y tu mewn i ffin yr awdurdod lleol. Dylai rhieni ddarllen polisi cludiant yr awdurdod lleol i weld a ddarperir cludiant ai peidio. Y pellter a fesurir fydd y ""llwybr cerdded byrraf a mwyaf diogel sydd ar gael"" rhwng mynedfa agosaf/ giât ffrynt y cartref a giât ffrynt/mynedfa agosaf yr ysgol, fel a bennir gan y Cyngor. Tybir bod llwybr ""ar gael"" os gall plentyn gerdded i'r ysgol yn rhesymol ddiogel, yng nghwmni rhywun fel sydd angen. Dylai rhieni roi gwybod i'r adran Derbyniadau Ysgol cyn gynted ag sydd modd, yn ysgrifenedig, os bydd cyfeiriad parhaol plentyn yn newid ar ôl y dyddiad cau am geisiadau. Gall unrhyw newidiadau cyn y dyddiad cau gael eu gwneud trwy'r system arlein.

Cofiwch AILGYFLWYNO eich cais os byddwch yn gwneud newidiadau arlein. Cynghorir rhieni sy'n bwriadu symud i ddalgylch dynodedig ysgol benodol ei bod yn hanfodol darparu tystioaleth megis llythyr cyfreithiwr / dogfen cyfnewid contractau /cytundeb tenantiaeth yn cadarnhau'r bwriad i symud a dyddiad cwblhau ddim hwyrach na'r dyddiad cau er mwyn i hyn gael ei ystyried.

Pennir unrhyw geisiadau a dderbynnir wedi'r dyddiad cau, neu geisiadau anghyflawn (h.y., heb brawf o gyfeiriad) adeg y dyddiad cau yn rhai hwyr, a all olygu mwy o bosibilrwydd peidio â chael lle yn eich dewis ysgol. Ymchwilir i honiadau o geisiadau twyllodrus, a gall lle gael ei dynnu'n ôl os bydd rhieni yn fwriadol wedi rhoi gwybodaeth anghywir er mwyn cael mantais ysgol benodol, na fuasai ganddynt fel rheol hawl iddi. Mae'r Cyngor yn gofyn am brawf preswylio i gefnogi pob cais, ac i'r perwyl hwn, os ydych yn byw ym Mro Morgannwg, mae modd i'r Cyngor gyfeirio at eich cofnod Treth Cyngor. Gellir gwneud hyn yn unig gyda'ch caniatad chi. Mae'n amod y system ymgeisio arlein fod ymgeiswyr yn rhoi'r caniatad hwn. Os nad ydych yn barod i roi eich caniatad i hyn, dylech wneud cais ar bapur, a bydd angen tystiolaeth ffisegol wedi ei lungopio ar gyfer hyn.