Oops something went wrong
  • {{ error }}

Mae a wnelo'r polisi preifatrwydd hwn â safle Derbyniadau Bro Morgannwg ac nid yw'n gymwys i wefannau allanol gyda dolenni o'r safle.

Nid ydym yn dal nac yn storio unrhyw fanylion personol am ymwelwyr â'r safle, ac eithrio lle mae manylion yn cael eu rhoi yn wirfoddol trwy ebost, neu trwy ddefnyddio ffurflen electronig, neu holi am unrhyw rai o'n gwasanaethau.

Yn yr achosion hyn, caiff y data personol a ddarparwch i'r awdurdod ei ddefnyddio yn unig i roi i chi y wybodaeth y gofynasoch amdano.

Ni fyddwn yn pasio dim o'ch data personol i gyrff a/neu unigolion allanol oni fyddwch chi yn rhoi eich caniatâd yn benodol.

Defnyddio cwcis Darllenwch ein polisi cwcis am wybodaeth am y modd yr ydym yn defnyddio cwcis.

Diogelu data Cofrestrwyd Cyngor Bro Morgannwg dan Ddeddf Diogelu Data 1998, sy'n caniatau i ni ddal a phrosesu data personol. Byddwn yn defnyddio gwybodaeth o'r fath yn unig fel sy'n cael ei ganiatau dan y Ddeddf.